1. Dyma neges arall roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia, pan gafodd Pashchwr fab Malcîa, a'r offeiriad Seffaneia fab Maaseia eu danfon ato gan y Brenin Sedeceia.
2. “Wnei di ofyn i'r ARGLWYDD ein helpu ni?” medden nhw. “Mae Nebwchadnesar, brenin Babilon, ar fin ymosod arnon ni. Falle y bydd yr ARGLWYDD yn gwneud gwyrth fel yn y gorffennol, ac yn ei anfon i ffwrdd oddi wrthon ni.”
3. A dyma oedd ateb Jeremeia: “Dyma mae'r ARGLWYDD, Duw Israel, yn ei ddweud:
11-12. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud wrth deulu brenhinol Jwda, sy'n perthyn i linach Dafydd: “Gwrandwch ar neges yr ARGLWYDD –‘Gwnewch yn siŵr fod pobl yn cael tegwch yn y llysoedd.Achubwch bobl sy'n dioddefo grafangau'r rhai sy'n eu gormesu nhw.Os na wnewch chi, bydda i'n ddig.Bydda i fel tân yn llosgi a neb yn gallu ei ddiffodd,o achos yr holl ddrwg dych chi wedi ei wneud.