Jeremeia 2:7-24 beibl.net 2015 (BNET)

7. Des i a chi i dir ffrwythlona gadael i chi fwynhau ei ffrwyth a'i gynnyrch da.Ond pan aethoch i mewn ynodyma chi'n llygru'r tir,a gwneud y wlad rois i'n etifeddiaeth i chiyn ffiaidd yn fy ngolwg i.

8. Wnaeth yr offeiriaid ddim gofyn,‘Ble mae'r ARGLWYDD?’Doedd y rhai sy'n dysgu'r Gyfraithddim yn fy nabod i.Roedd yr arweinwyr yn gwrthryfela yn fy erbyn,a'r proffwydi'n rhoi negeseuon ar ran y duw Baal,ac yn dilyn delwau diwerth.

9. Felly, dyma fi eto'n dod â cyhuddiad yn eich erbyn chi,a bydda i'n cyhuddo eich disgynyddion hefyd.”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

10. “Ewch drosodd i ynys Cyprus i weld;neu anfonwch rywun i Cedar i ymchwilio.Ydy'r fath beth wedi digwydd erioed o'r blaen?

11. Oes gwlad arall wedi newid ei duwiau?(A dydy'r rheiny ddim yn dduwiau go iawn!)Ond mae fy mhobl i wedi fy ffeirio i, y Duw gwych,am ‛dduwiau‛ sydd ond delwau diwerth.

12. Mae'r nefoedd mewn siocfod y fath beth yn gallu digwydd!Mae'n ddychryn! Mae'r peth yn syfrdanol!”—yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

13. “Mae fy mhobl wedi gwneud dau beth drwg:Maen nhw wedi troi cefn arna i,y ffynnon o ddŵr glân gloyw,a chloddio pydewau iddyn nhw eu hunain –pydewau wedi cracio sydd ddim yn dal dŵr!”

14. “Ydy Israel yn gaethwas? Na!Gafodd e ei eni'n gaethwas? Naddo!Felly, pam mae e'n cael ei gipio gan y gelyn?

15. Mae'r gelyn yn rhuo drostofel llewod ifanc yn rhuo'n swnllyd.Mae'r wlad wedi ei difetha,a'i threfi'n adfeilionheb neb yn byw yno bellach.

16. A daw milwyr yr Aifft, o drefi Memffis a Tachpanchesi siafio'ch pennau chi, bobl Israel.

17. Ti Israel ddaeth â hyn arnat dy hun,trwy droi dy gefn ar yr ARGLWYDD dy Dduwpan oedd e'n dangos y ffordd i ti.

18. Felly beth ydy'r pwynt mynd i lawr i'r Aifftneu droi at Asyria am help?Ydy yfed dŵr yr Afon Nil neu'r Ewffratesyn mynd i dy helpu di?

19. Bydd dy ddrygioni'n dod â'i gosb,a'r ffaith i ti droi cefn arna iyn dysgu gwers i ti.Cei weld fod troi cefn ar yr ARGLWYDD dy Dduw,a dangos dim parch tuag ata i,yn ddrwg iawn ac yn gwneud niwed mawr,”—meddai'r Meistr, yr ARGLWYDD holl-bwerus.

20. “Ymhell bell yn ôl torrais yr iau oedd ar dy wara dryllio'r rhaffau oedd yn dy rwymo;ond dyma ti'n dweud, ‘Wna i ddim dy wasanaethu di!’Felly addolaist dy ‛dduwiau‛ ar ben pob bryna than pob coeden ddeiliog,a gorweddian ar led fel putain.

21. Roeddwn i wedi dy blannu di yn y tirfel gwinwydden arbennig o'r math gorau.Sut wnest ti droi'n winwydden wyllta'i ffrwyth yn ddrwg a drewllyd?

22. Gelli drïo defnyddio powdr golchia llwythi o sebon i geisio ymolchi,ond dw i'n dal i weld staen dy euogrwydd di.”—Y Meistr, yr ARGLWYDD sy'n dweud hyn.

23. “Sut elli di ddweud, ‘Dw i ddim yn aflan.Wnes i ddim addoli duwiau Baal’?Meddylia beth wnest ti yn y dyffryn!Rwyt fel camel ifanc yn rhuthro i bob cyfeiriada ddim yn gwybod ble i droi!

24. Rwyt fel asen wyllt wedi ei magu yn yr anialwchyn sniffian yr awyr am gymar pan mae'n amser paru.Does dim modd ei dal hi'n ôl pan mae'r nwyd yna.Does dim rhaid i'r asynnod flino yn rhedeg ar ei hôl,mae hi yna'n disgwyl amdanyn nhw adeg paru.

Jeremeia 2