Jeremeia 19:7-14 beibl.net 2015 (BNET)

7. Bydda i'n drysu cynlluniau pobl Jwda a Jerwsalem. Byddan nhw'n cael eu lladd gan eu gelynion yn y rhyfel. Bydd adar ac anifeiliaid gwylltion yn bwyta eu cyrff nhw.

8. Bydd y ddinas yma'n cael ei dinistrio'n llwyr. Bydd pawb sy'n pasio heibio wedi dychryn am eu bywydau, ac yn chwibanu mewn rhyfeddod wrth weld y dinistr.

9. Bydda i'n gwneud iddyn nhw fwyta eu meibion a'u merched. Byddan nhw'n bwyta cyrff pobl am fod y sefyllfa wedi mynd mor ddrwg, a'r gelynion yn gwarchae arnyn nhw ac yn rhoi'r fath bwysau arnyn nhw.”’

10. “Wedyn dw i eisiau i ti falu'r jwg yn deilchion o flaen y dynion fydd wedi mynd hefo ti,

11. yna dweud wrthyn nhw fod yr ARGLWYDD holl-bwerus yn dweud: ‘Dw i'n mynd i ddryllio'r wlad yma a'r ddinas, yn union fel cafodd y jwg yma ei dorri'n deilchion. Does dim gobaith ei drwsio! Bydd cyrff yn cael eu claddu yma yn Toffet nes bydd dim lle ar ôl!

12. A bydd hi'r un fath ar y ddinas yma a'i phobl,’ meddai'r ARGLWYDD. ‘Bydd hi fel Toffet yma!

13. Am fod pobl wedi aberthu i'r sêr, a thywallt offrwm o ddiod i dduwiau eraill ar doeau'r tai a thoeau palasau brenhinoedd Jwda, bydd Jerwsalem hefyd wedi ei llygru gan gyrff yr un fath â Toffet.’”

14. Ar ôl dod yn ôl o Toffet, ble roedd yr ARGLWYDD wedi ei anfon i broffwydo, dyma Jeremeia'n mynd i deml yr ARGLWYDD a sefyll yn yr iard ac annerch y bobl yno.

Jeremeia 19