7. Ond mae yna fendith fawr i'r rhai sy'n fy nhrystio iac yn rhoi eu hyder ynof fi.
8. Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi ei phlannu ar lan afon,a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr.Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi;mae ei dail yn aros yn wyrdd.A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder;bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.
9. Oes rhywun yn deall y galon ddynol?Mae'n fwy twyllodrus na dim,a does dim gwella arni.
10. Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl.Dw i'n rhoi i bawb beth mae'n nhw'n ei haedduam y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.
11. Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyllfel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'i dodwy.Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl,ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.”
12. “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wychsy'n uchel o'r dechrau cyntaf:ti ydy'r lle saff i ni droi!
13. ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel,a bydd pawb sy'n troi cefn arnat tiyn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n cael eu cofrestru ym myd y meirwam iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD,y ffynnon o ddŵr glân croyw.”
14. “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu fy iacháu;dim ond ti sy'n gallu fy achub.Ti ydy'r un dw i'n ei foli!
15. Gwrando beth maen nhw'n ddweud wrtho i!‘Beth am y neges yma gest ti gan yr ARGLWYDD?Tyrd! Gad i ni ei weld yn digwydd!’
16. Gwnes i dy annog i atal y dinistr.Doedd gen i ddim eisiau gweldy diwrnod o drwbwl di-droi-nôl yn cyrraedd.Ti'n gwybod yn iawn beth ddywedais i.Roedd y cwbl yn agored o dy flaen di.
17. Paid dychryn fi;ti ydy'r lle saff i mi guddio pan mae pethau'n ddrwg arna i.
18. Gwna i'r rhai sy'n fy erlid i gywilyddio;paid codi cywilydd arna i.Gad iddyn nhw gael eu siomi;paid siomi fi.Tyrd â'r dyddiau drwg arnyn nhw,a dinistria nhw'n llwyr!”
19. Dyma'r ARGLWYDD yn dweud wrtho i: “Dos i sefyll wrth Giât y Bobl ble mae brenhinoedd Jwda yn mynd i mewn ac allan o'r ddinas. Yna dos at giatiau eraill y ddinas.