Jeremeia 17:4-14 beibl.net 2015 (BNET)

4. Byddwch chi'n colli gafael yn y wlad rois i'n etifeddiaeth i chi.Byddwch yn gwasanaethu eich gelynionmewn gwlad ddieithr.Mae fy llid yn llosgi fel tân fydd ddim yn diffodd.”

5. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud:“Melltith ar y rhai sy'n trystio pobl feidrola chryfder dynol,a'r galon wedi troi cefn arna i.

6. Byddan nhw'n sych fel prysglwyn ar dir anial,heb ddim gobaith i'r dyfodol.Byddan nhw'n aros yn yr anialwch poeth,mewn tir diffaith lle does neb yn gallu byw.

7. Ond mae yna fendith fawr i'r rhai sy'n fy nhrystio iac yn rhoi eu hyder ynof fi.

8. Byddan nhw'n gryf fel coeden wedi ei phlannu ar lan afon,a'i gwreiddiau'n ymwthio i'r dŵr.Dydy'r gwres crasboeth yn poeni dim arni hi;mae ei dail yn aros yn wyrdd.A does dim lle i boeni pan ddaw blwyddyn o sychder;bydd ei ffrwyth yn dal i dyfu arni.

9. Oes rhywun yn deall y galon ddynol?Mae'n fwy twyllodrus na dim,a does dim gwella arni.

10. Dw i, yr ARGLWYDD, yn chwilio'r galonac yn gwybod beth sydd ar feddyliau pobl.Dw i'n rhoi i bawb beth mae'n nhw'n ei haedduam y ffordd maen nhw wedi ymddwyn.

11. Mae pobl sy'n gwneud arian drwy dwyllfel petrisen yn eistedd ar wyau wnaeth hi mo'i dodwy.Byddan nhw'n colli'r cwbl yn annisgwyl,ac yn dangos yn y diwedd mai ffyliaid oedden nhw.”

12. “ARGLWYDD, ti sydd ar dy orsedd wychsy'n uchel o'r dechrau cyntaf:ti ydy'r lle saff i ni droi!

13. ARGLWYDD, ti ydy gobaith Israel,a bydd pawb sy'n troi cefn arnat tiyn cael eu cywilyddio.Byddan nhw'n cael eu cofrestru ym myd y meirwam iddyn nhw droi cefn arna i, yr ARGLWYDD,y ffynnon o ddŵr glân croyw.”

14. “ARGLWYDD, dim ond ti sy'n gallu fy iacháu;dim ond ti sy'n gallu fy achub.Ti ydy'r un dw i'n ei foli!

Jeremeia 17