Jeremeia 14:5-9 beibl.net 2015 (BNET)

5. Mae hyd yn oed yr ewig yn troi cefnar y carw bach sydd newydd ei eni,am fod dim glaswellt ar ôl.

6. Mae'r asynnod gwyllt ar y bryniau moelyn nadu fel siacaliaid.Mae eu llygaid yn pyluam fod dim porfa yn unman.”

7. “O ARGLWYDD,er bod ein pechodau yn tystio yn ein herbyn,gwna rywbeth i'n helpu nier mwyn dy enw da.Dŷn ni wedi troi cefn arnat ti lawer gwaith,ac wedi pechu yn dy erbyn di.

8. Ti ydy unig obaith Israel –ein hachubwr pan oedden ni mewn trwbwl.Pam wyt ti fel estron yn y wlad?Pam wyt ti fel teithiwr sydd ond yn aros am noson?

9. Pam ddylet ti ymddangos fel rhywun gwan,neu arwr sydd ddim yn gallu achub ddim mwy?Ond rwyt ti gyda ni, ARGLWYDD.Dŷn ni'n cael ein nabod fel dy bobl di.Paid troi dy gefn arnon ni!”

Jeremeia 14