1. Y negeseuon roddodd yr ARGLWYDD i Jeremeia am y sychder:
2. “Mae pobl Jwda yn galaru.Mae'r busnesau yn y trefi yn methu.Mae pobl yn gorwedd ar lawr mewn anobaith.Mae Jerwsalem yn gweiddi am help.
3. Mae'r meistri yn anfon eu gweision i nôl dŵr;mae'r rheiny'n cyrraedd y pydewaua'u cael yn hollol sych.Maen nhw'n mynd yn ôl gyda llestri gwag,yn siomedig ac yn ddigalon.Maen nhw'n mynd yn ôlyn cuddio'u pennau mewn cywilydd.