Jeremeia 12:14-17 beibl.net 2015 (BNET)

14. Dyma mae'r ARGLWYDD yn ei ddweud am y gwledydd drwg o'n cwmpas ni sy'n ymosod ar y tir roddodd e i'w bobl Israel: “Dw i'n mynd i symud pobl y gwledydd hynny o'u tir, a gollwng pobl Jwda yn rhydd o'u canol nhw.

15. Ond ar ôl symud y bobl bydda i'n troi ac yn dangos trugaredd atyn nhw, a rhoi eu tir yn ôl iddyn nhw i gyd. Bydd pawb yn mynd adre i'w wlad ei hun.

16. Ond bydd rhaid iddyn nhw ddysgu byw fel fy mhobl i. Ar un adeg roedden nhw'n dysgu fy mhobl i dyngu llw yn enw y duw Baal. Ond bryd hynny byddan nhw'n dweud ‘Mor sicr â bod yr ARGLWYDD yn fyw,’ wrth dyngu llw, a byddan nhw hefyd yn cael eu hystyried yn bobl i mi.

17. Os wnân nhw ddim gwrando, bydda i'n eu diwreiddio nhw ac yn eu dinistrio nhw'n llwyr,” meddai'r ARGLWYDD.

Jeremeia 12