9. Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma'r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a'r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a'r wraig yn dal i sefyll o'i flaen.
10. Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?”
11. “Nac oes syr, neb” meddai.“Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.”
12. Pan roedd Iesu'n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”
13. Ond dyma'r Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.”
14. Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i'n tystio ar fy rhan fy hun, mae'r dystiolaeth yna'n ddilys. Dw i'n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i'n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i'n mynd.
15. Dych chi'n barnu yn ôl safonau dynol; dw i'n barnu neb felly.
16. Ond pan dw i'n barnu, dw i'n dyfarnu'n gywir, am fy mod i ddim yn barnu ar fy mhen fy hun. Mae'r Tad sydd wedi fy anfon i yn barnu gyda mi.
17. Mae eich Cyfraith chi'n dweud yn glir fod tystiolaeth dau ddyn yn ddilys.
18. Dw i fy hun yn rhoi tystiolaeth, a'r Tad ydy'r tyst arall, yr un sydd wedi fy anfon i.”
19. “Ble mae dy dad di?” medden nhw. “Dych chi ddim wir yn gwybod pwy ydw i,” atebodd Iesu, “nac yn nabod fy Nhad chwaith. Tasech chi'n gwybod pwy ydw i, byddech chi'n nabod fy Nhad i hefyd.”
20. Dwedodd hyn pan oedd yn dysgu yn y deml wrth ymyl y blychau lle roedd pobl yn rhoi eu harian i'r drysorfa. Ond wnaeth neb ei ddal, am fod ei amser iawn ddim wedi dod.
21. Dwedodd Iesu wrthyn nhw dro arall, “Dw i'n mynd i ffwrdd. Byddwch chi'n edrych amdana i, ond yn marw yn eich pechod. Dych chi ddim yn gallu dod ble dw i'n mynd.”
22. Gwnaeth hyn i'r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e'n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae'n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i'n mynd’?”
23. Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi'n dod o'r ddaear; dw i'n dod oddi uchod. O'r byd hwn dych chi'n dod; ond dw i ddim yn dod o'r byd hwn.
24. Dyna pam ddwedais i y byddwch chi'n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi'n marw yn eich pechod.”
25. “Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi ei ddweud o'r dechrau,” atebodd Iesu.
26. “Mae gen i lawer i'w ddweud amdanoch chi, a digon i'w gondemnio. Mae'r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi ei glywed ganddo fe dw i'n ei gyhoeddi i'r byd.”