Ioan 8:34-45 beibl.net 2015 (BNET)

34. Atebodd Iesu, “Credwch chi fi, mae pawb sy'n pechu wedi ei gaethiwo gan bechod.

35. Dydy caethwas ddim yn perthyn i'r teulu mae'n ei wasanaethu, ond mae mab yn perthyn am byth.

36. Felly os ydy'r Mab yn rhoi eich rhyddid i chi byddwch yn rhydd go iawn.

37. Dw i'n gwybod eich bod chi'n ddisgynyddion i Abraham, ond dych chi'n ceisio fy lladd i am eich bod chi ddim yn deall beth dw i'n ei ddweud go iawn.

38. Dw i'n cyhoeddi beth dw i wedi ei weld gyda'r Tad. Dych chi'n gwneud beth mae'ch tad chi'n ei ddweud wrthoch chi.”

39. “Abraham ydy'n tad ni,” medden nhw. “Petaech chi wir yn blant i Abraham,” meddai Iesu, “byddech chi'n gwneud beth wnaeth Abraham.

40. Ond dyma chi, yn benderfynol o'm lladd i, a minnau ond wedi cyhoeddi'r gwirionedd glywais i gan Dduw. Doedd Abraham ddim yn gwneud pethau felly!

41. Na, gwneud y pethau mae'ch tad chi'n eu gwneud dych chi.”“Dim plant siawns ydyn ni!” medden nhw, “Duw ei hun ydy'r unig Dad sydd gynnon ni.”

42. “Ond petai Duw yn Dad i chi,” meddai Iesu, “byddech chi'n fy ngharu i, am fy mod i wedi dod yma oddi wrth Dduw. Dw i ddim wedi dod ar fy liwt fy hun; Duw sydd wedi fy anfon i.

43. Pam dydy fy ngeiriau i ddim yn gwneud synnwyr i chi? Am eich bod yn methu clywed y neges sydd gen i.

44. Y diafol ydy eich tad chi, a dych chi'n fodlon gwneud beth mae'ch tad eisiau. Llofrudd oedd e o'r dechrau, heb lynu wrth y gwir, am fod dim lle i'r gwir ynddo. Pan mae'n dweud celwydd, mae'n siarad ei famiaith! Celwyddgi ydy e, a thad pob celwydd!

45. Ond dw i'n dweud y gwir, felly dych chi ddim yn fy nghredu i!

Ioan 8