Ioan 8:22-32 beibl.net 2015 (BNET)

22. Gwnaeth hyn i'r arweinwyr a phobl Jwdea ofyn, “Ydy e'n mynd i ladd ei hun neu rywbeth? Ai dyna pam mae'n dweud, ‘Dych chi ddim yn gallu dod i ble dw i'n mynd’?”

23. Ond aeth yn ei flaen i ddweud, “Dych chi'n dod o'r ddaear; dw i'n dod oddi uchod. O'r byd hwn dych chi'n dod; ond dw i ddim yn dod o'r byd hwn.

24. Dyna pam ddwedais i y byddwch chi'n marw yn eich pechod – os wnewch chi ddim credu mai fi ydy e, byddwch chi'n marw yn eich pechod.”

25. “Mai ti ydy pwy?” medden nhw. “Yn union beth dw i wedi ei ddweud o'r dechrau,” atebodd Iesu.

26. “Mae gen i lawer i'w ddweud amdanoch chi, a digon i'w gondemnio. Mae'r un sydd wedi fy anfon i yn dweud y gwir, a beth dw i wedi ei glywed ganddo fe dw i'n ei gyhoeddi i'r byd.”

27. Doedden nhw ddim yn deall ei fod yn siarad am Dduw y Tad.

28. Felly dwedodd Iesu, “Pan byddwch wedi fy nghodi i, Mab y Dyn, i fyny, dyna pryd byddwch chi'n gwybod mai fi ydy e, ac nad ydw i yn gwneud dim ar fy mhen fy hun, dim ond dweud beth mae'r Tad wedi ei ddysgu i mi.

29. Mae'r un sydd wedi fy anfon i gyda mi; dydy e ddim wedi fy ngadael ar fy mhen fy hun, achos dw i bob amser yn gwneud beth sy'n ei blesio.”

30. Daeth llawer o bobl i gredu ynddo tra roedd yn siarad.

31. A dwedodd Iesu wrth yr Iddewon hynny oedd wedi credu ynddo, “Os daliwch chi afael yn beth dw i wedi ei ddangos i chi, dych chi'n ddilynwyr go iawn i mi.

32. Byddwch yn dod i wybod beth sy'n wir, a bydd y gwirionedd hwnnw'n rhoi rhyddid i chi.”

Ioan 8