1. Ond aeth Iesu i Fynydd yr Olewydd.
2. Pan wawriodd hi y bore wedyn, roedd Iesu yn ôl yng nghwrt y deml. Dyma dyrfa yn casglu o'i gwmpas, ac eisteddodd Iesu i'w dysgu nhw.
3. Tra roedd yn dysgu'r bobl dyma rai o'r arbenigwyr yn y Gyfraith a'r Phariseaid yn dod ato gyda gwraig oedd wedi cael ei dal yn godinebu. Dyma nhw'n ei rhoi hi i sefyll yn y canol o flaen pawb,
4. ac yna medden nhw wrth Iesu, “Athro, mae'r wraig hon wedi cael ei dal yn cael rhyw gyda dyn oedd ddim yn ŵr iddi.
5. Yn y Gyfraith mae Moses yn dweud fod gwragedd o'r fath i gael eu llabyddio i farwolaeth gyda cherrig. Beth wyt ti'n ei ddweud am y mater?”
6. (Roedden nhw'n defnyddio'r cwestiwn fel trap, er mwyn cael sail i ddwyn cyhuddiad yn ei erbyn.) Ond dyma Iesu'n plygu i lawr a dechrau ysgrifennu gyda'i fys yn y llwch ar lawr.
7. Ond wrth iddyn nhw ddal ati i bwyso arno i ateb, edrychodd i fyny a dweud wrthyn nhw, “Os oes un ohonoch chi ddynion ddim wedi pechu, taflwch chi'r garreg gyntaf ati hi.”
8. Yna plygodd eto ac ysgrifennu ar lawr.
9. Ar ôl clywed beth ddwedodd e, dyma'r dynion yn gadael. Y rhai hynaf aeth gyntaf, a'r lleill yn dilyn, nes oedd neb ar ôl ond Iesu, a'r wraig yn dal i sefyll o'i flaen.
10. Edrychodd i fyny eto, a gofyn iddi, “Wel, wraig annwyl, ble maen nhw? Oes neb wedi dy gondemnio di?”
11. “Nac oes syr, neb” meddai.“Dw innau ddim yn dy gondemnio di chwaith,” meddai Iesu. “Felly dos, a pheidio pechu fel yna eto.”
12. Pan roedd Iesu'n annerch y bobl dro arall, dwedodd, “Fi ydy golau'r byd. Bydd gan y rhai sy'n fy nilyn i olau i'w harwain nhw i fywyd, a fyddan nhw byth yn cerdded mewn tywyllwch.”
13. Ond dyma'r Phariseaid yn ymateb, “Rhoi tystiolaeth ar dy ran dy hun rwyt ti. Dydy tystiolaeth felly ddim yn ddilys.”
14. Atebodd Iesu, “Hyd yn oed os ydw i'n tystio ar fy rhan fy hun, mae'r dystiolaeth yna'n ddilys. Dw i'n gwybod o ble dw i wedi dod ac i ble dw i'n mynd. Ond does gynnoch chi ddim syniad o ble dw i wedi dod nac i ble dw i'n mynd.