Ioan 7:45-47 beibl.net 2015 (BNET)

45. Aeth swyddogion diogelwch y deml yn ôl at y prif offeiriaid a'r Phariseaid, a gofynnodd y rheiny iddyn nhw, “Pam wnaethoch chi ddim dod ag e yma?”

46. “Does neb erioed wedi siarad fel y dyn hwn,” medden nhw.

47. “Beth!” atebodd y Phariseaid, “Ydy e wedi'ch twyllo chi hefyd?”

Ioan 7