Ioan 5:30-45 beibl.net 2015 (BNET)

30. Ond dw i'n gwneud dim ohono i'n hun; dw i'n barnu yn union fel dw i'n clywed. A dw i'n dyfarnu'n iawn, achos dw i ddim yn gwneud beth dw i eisiau, dim ond beth mae Duw, wnaeth fy anfon i, eisiau.

31. “Petawn i ond yn tystio ar fy rhan fy hun, fyddai'r dystiolaeth ddim yn ddilys.

32. Ond mae un arall sy'n rhoi tystiolaeth o'm plaid i, a dw i'n gwybod fod ei dystiolaeth e amdana i yn ddilys.

33. “Dyma chi'n anfon negeswyr at Ioan Fedyddiwr a rhoddodd dystiolaeth i chi am y gwir.

34. Does dim angen tystiolaeth ddynol arna i; ond dw i'n cyfeirio ato er mwyn i chi gael eich achub.

35. Roedd Ioan fel lamp ddisglair, a dyma chi'n mwynhau sefyll yn ei olau am gyfnod.

36. “Ond mae gen i dystiolaeth bwysicach na beth ddwedodd Ioan. Mae beth dw i'n ei wneud (y gwaith mae'r Tad wedi ei roi i mi ei gyflawni), yn dystiolaeth fod y Tad wedi fy anfon i.

37. Ac mae'r Tad ei hun, yr un anfonodd fi, wedi tystiolaethu amdana i. Ond dych chi ddim wedi clywed ei lais heb sôn am ei weld!

38. Dych chi ddim yn gwrando ar beth mae e'n ddweud, achos dych chi'n gwrthod credu ynof fi, yr un mae wedi ei anfon.

39. Dych chi'n astudio'r ysgrifau sanctaidd yn ddiwyd am eich bod yn meddwl y cewch fywyd tragwyddol wrth wneud hynny. Tystiolaethu amdana i mae'r ysgrifau hynny.

40. Ac eto dych chi'n gwrthod troi ata i er mwyn cael y bywyd yna!

41. “Dw i ddim yn edrych am ganmoliaeth pobl.

42. Dw i'n eich nabod chi'n iawn. Dw i'n gwybod eich bod chi ddim yn caru Duw go iawn.

43. Dw i wedi dod i gynrychioli fy Nhad, a dych chi'n fy ngwrthod i; ond os daw rhywun arall ar ei liwt ei hun, byddwch yn ei dderbyn e!

44. Sut allwch chi gredu? Dych chi'n mwynhau canmol eich gilydd, tra'n gwneud dim ymdrech i dderbyn y ganmoliaeth sy'n dod oddi wrth yr unig Dduw.

45. “Ond peidiwch tybio mai fi fydd yn eich cyhuddo chi o flaen y Tad. Moses ydy'r un sy'n eich cyhuddo chi. Ie, Moses, yr un dych chi wedi bod yn pwyso arno.

Ioan 5