8. (Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dre i brynu bwyd.)
9. “Iddew wyt ti,” meddai'r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i'n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio'r un llestri â'r Samariaid.)
10. Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i'w roi i ti, a phwy ydw i sy'n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai'n gofyn wedyn, a byddwn i'n rhoi dŵr bywiol i ti.”
11. “Syr,” meddai'r wraig, “Ble mae'r ‛dŵr bywiol‛ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae'r pydew yn ddwfn.
12. Wyt ti'n meddwl dy fod di'n fwy na'n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e'n yfed y dŵr yma, a'i feibion hefyd a'i anifeiliaid.”
13. Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy'n yfed y dŵr yma,
14. ond fydd dim syched byth ar y rhai sy'n yfed y dŵr dw i'n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i'n ei roi yn troi'n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.”
15. Meddai'r wraig wrtho, “Syr, rho beth o'r dŵr hwnnw i mi! Wedyn fydd dim syched arna i eto, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.”
16. Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a tyrd yn ôl yma wedyn.”
17. “Does gen i ddim gŵr,” meddai'r wraig. “Rwyt ti'n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr.
18. Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a dwyt ti ddim yn briod i'r dyn sy'n byw gyda ti bellach. Mae beth ddwedaist ti'n wir.”