Ioan 4:18-32 beibl.net 2015 (BNET)

18. Y gwir ydy dy fod wedi cael pump o wŷr, a dwyt ti ddim yn briod i'r dyn sy'n byw gyda ti bellach. Mae beth ddwedaist ti'n wir.”

19. “Dw i'n gweld dy fod ti'n broffwyd syr,” meddai'r wraig.

20. “Dywed wrtho i, roedd ein hynafiaid ni'r Samariaid yn addoli ar y mynydd hwn, ond dych chi'r Iddewon yn mynnu mai Jerwsalem ydy'r lle iawn i addoli.”

21. Atebodd Iesu, “Cred di fi, mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn addoli'r Tad yma ar y mynydd hwn nac yn Jerwsalem chwaith.

22. Dych chi'r Samariaid ddim yn gwybod beth dych chi'n ei addoli go iawn; dŷn ni'r Iddewon yn nabod y Duw dŷn ni'n ei addoli, am mai drwy'r Iddewon mae achubiaeth Duw yn dod.

23. Ond mae'r amser yn dod, ac mae yma'n barod, pan fydd Ysbryd Duw yn galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd. Pobl sy'n ei addoli fel hyn sydd gan Dduw eisiau.

24. Ysbryd ydy Duw, ac Ysbryd Duw sy'n galluogi pobl i addoli Duw fel y mae mewn gwirionedd.”

25. Meddai'r wraig, “Dw i'n gwybod fod Meseia (sy'n golygu ‘Yr un wedi ei eneinio'n frenin’) yn dod. Pan ddaw, bydd yn esbonio popeth i ni.”

26. “Fi ydy e,” meddai Iesu wrthi, “yr un sy'n siarad â ti.”

27. Dyna pryd daeth ei ddisgyblion yn ôl. Roedden nhw'n rhyfeddu ei weld yn siarad â gwraig, ond wnaethon nhw ddim gofyn iddi “Beth wyt ti eisiau?”, na “Pam wyt ti'n siarad gyda hi?” i Iesu.

28. Dyma'r wraig yn gadael ei hystên ddŵr, a mynd yn ôl i'r pentref. Dwedodd wrth y bobl yno,

29. “Dewch i weld dyn oedd yn gwybod popeth amdana i. Allai e fod y Meseia tybed?”

30. Felly dyma'r bobl yn mynd allan o'r pentref i gyfarfod Iesu.

31. Yn y cyfamser roedd ei ddisgyblion wedi bod yn ceisio ei gael i fwyta rhywbeth. “Rabbi,” medden nhw, “bwyta.”

32. Ond dyma ddwedodd Iesu: “Mae gen i fwyd i'w fwyta dych chi'n gwybod dim amdano.”

Ioan 4