1. Roedd y Phariseaid wedi dod i wybod fod Iesu yn ennill ac yn bedyddio mwy o ddilynwyr na Ioan Fedyddiwr
2. (er mai'r disgyblion oedd yn gwneud y bedyddio mewn gwirionedd, dim Iesu.)
3. Pan glywodd Iesu am hyn, gadawodd Jwdea a mynd yn ôl i Galilea.
4. Ar y ffordd roedd rhaid iddo basio drwy Samaria.
5. Daeth i bentref o'r enw Sychar, yn ymyl y darn tir enwog roedd Jacob wedi ei roi i'w fab Joseff ers talwm.
6. A dyna lle roedd ffynnon Jacob. Roedd Iesu wedi blino'n lân, ac eisteddodd i orffwys wrth y ffynnon. Roedd hi tua chanol dydd.
7. Daeth gwraig yno i godi dŵr. Samariad oedd y wraig, a gofynnodd Iesu iddi, “Ga i ddiod gen ti?”
8. (Roedd ei ddisgyblion wedi mynd i'r dre i brynu bwyd.)
9. “Iddew wyt ti,” meddai'r wraig, “Sut alli di ofyn i mi am ddiod? Dw i'n wraig o Samaria.” (Y rheswm pam wnaeth hi ymateb fel yna oedd fod Iddewon fel arfer yn gwrthod defnyddio'r un llestri â'r Samariaid.)
10. Atebodd Iesu, “Taset ti ond yn gwybod beth sydd gan Dduw i'w roi i ti, a phwy ydw i sy'n gofyn i ti am ddiod! Ti fyddai'n gofyn wedyn, a byddwn i'n rhoi dŵr bywiol i ti.”
11. “Syr,” meddai'r wraig, “Ble mae'r ‛dŵr bywiol‛ yma sydd gen ti? Does gen ti ddim bwced i godi dŵr ac mae'r pydew yn ddwfn.
12. Wyt ti'n meddwl dy fod di'n fwy na'n tad ni, Jacob? Jacob roddodd y pydew i ni. Buodd e'n yfed y dŵr yma, a'i feibion hefyd a'i anifeiliaid.”
13. Atebodd Iesu, “Bydd syched eto ar bawb sy'n yfed y dŵr yma,
14. ond fydd dim syched byth ar y rhai sy'n yfed y dŵr dw i'n ei roi. Yn wir, bydd y dŵr dw i'n ei roi yn troi'n ffynnon o ddŵr y tu mewn iddyn nhw, fel ffrwd yn llifo i fywyd tragwyddol.”
15. Meddai'r wraig wrtho, “Syr, rho beth o'r dŵr hwnnw i mi! Wedyn fydd dim syched arna i eto, a fydd dim rhaid i mi ddal ati i ddod yma i nôl dŵr.”
16. Yna dwedodd Iesu wrthi, “Dos i nôl dy ŵr, a tyrd yn ôl yma wedyn.”
17. “Does gen i ddim gŵr,” meddai'r wraig. “Rwyt ti'n iawn!” meddai Iesu wrthi, “Does gen ti ddim gŵr.