27. Atebodd Ioan, “Dim ond gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi iddo mae rhywun yn gallu wneud.
28. Dych chi'n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy'r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o'i flaen e.’
29. Mae'r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae'r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae'n digwydd. A dyna pam dw i'n wirioneddol hapus.
30. Rhaid iddo fe ddod i'r amlwg; rhaid i mi fynd o'r golwg.”
31. Daeth Iesu o'r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o'r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth.
32. Mae'n dweud am beth mae wedi ei weld a'i glywed yn y nefoedd, a does neb yn ei gredu!
33. Ond mae'r rhai sydd yn credu yn hollol sicr fod Duw yn dweud y gwir.
34. Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw'n ei ddweud. Mae Duw'n rhoi'r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl.
35. Mae Duw y Tad yn caru'r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei ofal e.
36. Mae bywyd tragwyddol gan bawb sy'n credu yn y Mab, ond fydd y rhai sy'n gwrthod y Mab ddim hyd yn oed yn cael cipolwg o'r bywyd hwnnw. Bydd digofaint Duw yn aros arnyn nhw.