Ioan 3:18-35 beibl.net 2015 (BNET)

18. Dydy'r rhai sy'n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae'r rhai sydd ddim yn credu wedi eu condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw.

19. Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond roedd pobl yn caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau, am eu bod nhw'n gwneud drygioni o hyd.

20. Mae pawb sy'n gwneud drygioni yn casáu'r golau. Maen nhw'n gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld.

21. Ond mae'r rhai sy'n ufudd i'r gwirionedd yn dod allan i'r golau, ac mae'n amlwg mai Duw sy'n rhoi'r nerth iddyn nhw wneud beth sy'n iawn.”

22. Ar ôl hyn gadawodd Iesu a'i ddisgyblion Jerwsalem, a mynd i gefn gwlad Jwdea. Yno bu'n treulio amser gyda nhw, ac yn bedyddio pobl.

23. Yr un pryd, roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim. Roedd digon o ddŵr yno, ac roedd pobl yn mynd ato yn gyson i gael eu bedyddio.

24. (Roedd hyn cyn i Ioan gael ei garcharu.)

25. Dechreuodd rhyw arweinydd Iddewig ddadlau gyda disgyblion Ioan Fedyddiwr am y ddefod o ymolchi seremonïol.

26. Dyma disgyblion Ioan yn dod ato a dweud wrtho, “Rabbi, wyt ti'n gwybod y dyn oedd gyda ti yr ochr draw i Afon Iorddonen – yr un rwyt ti wedi bod yn sôn amdano? Wel, mae e'n bedyddio hefyd, ac y mae pawb yn mynd ato fe.”

27. Atebodd Ioan, “Dim ond gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi iddo mae rhywun yn gallu wneud.

28. Dych chi'n gallu tystio fy mod i wedi dweud, ‘Dim fi ydy'r Meseia. Dw i wedi cael fy anfon o'i flaen e.’

29. Mae'r briodferch yn mynd at y priodfab. Mae'r gwas priodas yn edrych ymlaen at hynny, ac mae wrth ei fodd pan mae'n digwydd. A dyna pam dw i'n wirioneddol hapus.

30. Rhaid iddo fe ddod i'r amlwg; rhaid i mi fynd o'r golwg.”

31. Daeth Iesu o'r nefoedd, ac mae uwchlaw pawb arall. Mae unrhyw berson daearol yn siarad fel un sydd o'r ddaear. Ond mae Iesu uwchlaw popeth.

32. Mae'n dweud am beth mae wedi ei weld a'i glywed yn y nefoedd, a does neb yn ei gredu!

33. Ond mae'r rhai sydd yn credu yn hollol sicr fod Duw yn dweud y gwir.

34. Oherwydd mae Iesu yn dweud yn union beth mae Duw'n ei ddweud. Mae Duw'n rhoi'r Ysbryd iddo heb ddal dim yn ôl.

35. Mae Duw y Tad yn caru'r Mab ac wedi rhoi popeth yn ei ofal e.

Ioan 3