Ioan 3:11-23 beibl.net 2015 (BNET)

11. Cred di fi, dŷn ni'n siarad am beth dŷn ni'n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi ei weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni.

12. Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy'n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi'n credu os gwna i siarad am bethau'r byd nefol?

13. Fi, Mab y Dyn ydy'r unig un sydd wedi dod o'r nefoedd, a does neb arall wedi mynd i'r nefoedd.

14. Cododd Moses neidr bres ar bolyn yn yr anialwch. Bydda i, Mab y Dyn, yn cael fy nghodi yr un fath.

15. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn cael bywyd tragwyddol.

16. “Ydy, mae Duw wedi caru'r byd cymaint nes iddo roi ei unig Fab, er mwyn i bwy bynnag sy'n credu ynddo beidio mynd i ddistryw ond cael bywyd tragwyddol.

17. Oherwydd anfonodd Duw ei Fab i achub y byd, dim i gondemnio'r byd.

18. Dydy'r rhai sy'n credu ynddo ddim yn cael eu condemnio. Ond mae'r rhai sydd ddim yn credu wedi eu condemnio eisoes, am eu bod nhw wedi gwrthod credu ym Mab unigryw Duw.

19. Dyma'r dyfarniad: Mae golau wedi dod i'r byd, ond roedd pobl yn caru'r tywyllwch yn fwy na'r golau, am eu bod nhw'n gwneud drygioni o hyd.

20. Mae pawb sy'n gwneud drygioni yn casáu'r golau. Maen nhw'n gwrthod dod allan i'r golau rhag ofn i'w gweithredoedd gael eu gweld.

21. Ond mae'r rhai sy'n ufudd i'r gwirionedd yn dod allan i'r golau, ac mae'n amlwg mai Duw sy'n rhoi'r nerth iddyn nhw wneud beth sy'n iawn.”

22. Ar ôl hyn gadawodd Iesu a'i ddisgyblion Jerwsalem, a mynd i gefn gwlad Jwdea. Yno bu'n treulio amser gyda nhw, ac yn bedyddio pobl.

23. Yr un pryd, roedd Ioan hefyd yn bedyddio yn Ainon ger Salim. Roedd digon o ddŵr yno, ac roedd pobl yn mynd ato yn gyson i gael eu bedyddio.

Ioan 3