Ioan 3:1-12 beibl.net 2015 (BNET)

1. Un noson ar ôl iddi dywyllu daeth un o'r arweinwyr Iddewig at Iesu. Pharisead o'r enw Nicodemus oedd y dyn.

2. Meddai wrth Iesu, “Rabbi, dŷn ni'n gwybod dy fod di'n athro wedi ei anfon gan Dduw i'n dysgu ni. Mae'r gwyrthiau rwyt ti'n eu gwneud yn profi fod Duw gyda ti.”

3. Dyma Iesu'n ymateb trwy ddweud hyn wrtho: “Cred di fi – all neb weld Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni oddi uchod.”

4. “Sut gall unrhyw un gael ei eni pan mae'n oedolyn?” gofynnodd Nicodemus. “Allan nhw'n sicr ddim mynd i mewn i'r groth am yr ail waith i gael eu geni felly!”

5. Atebodd Iesu, “Cred di fi, all neb brofi Duw'n teyrnasu heb fod wedi cael ei eni drwy ddŵr a drwy'r Ysbryd.

6. Mae'r corff dynol yn rhoi genedigaeth i berson dynol, ond yr Ysbryd sy'n rhoi genedigaeth ysbrydol.

7. Ddylet ti ddim synnu wrth i mi ddweud, ‘Rhaid i chi gael eich geni oddi uchod.’

8. Mae'r gwynt yn chwythu i bob cyfeiriad. Rwyt yn clywed ei sŵn, ond dwyt ti ddim yn gallu dweud o ble mae'n dod nag i ble mae'n mynd. Felly mae hi hefyd gyda phawb sydd wedi eu geni drwy'r Ysbryd.”

9. “Sut mae hynny'n gallu digwydd?” gofynnodd Nicodemus.

10. “Dyma ti,” meddai Iesu, “yr athro parchus yng ngolwg pobl Israel, a dwyt ti ddim yn deall!

11. Cred di fi, dŷn ni'n siarad am beth dŷn ni'n ei wybod, ac yn dweud am beth dŷn ni wedi ei weld, ond dych chi ddim yn ein credu ni.

12. Os dw i wedi siarad â chi am bethau sy'n digwydd ar y ddaear a dych chi ddim yn credu, sut byddwch chi'n credu os gwna i siarad am bethau'r byd nefol?

Ioan 3