5. Galwodd arnyn nhw, “Oes gynnoch chi bysgod ffrindiau?”“Nac oes,” medden nhw.
6. Yna dwedodd Iesu, “Taflwch y rhwyd ar ochr dde'r cwch, a byddwch yn dal rhai.” Dyma nhw'n gwneud hynny, a chafodd cymaint o bysgod eu dal nes eu bod nhw'n methu tynnu'r rhwyd yn ôl i'r cwch.
7. Dyma'r disgybl roedd Iesu'n ei garu'n fawr yn dweud wrth Pedr, “Yr Arglwydd ydy e!” A dyma Simon Pedr yn rhwymo dilledyn am ei ganol (achos doedd ganddo ddim byd amdano), yna neidio i'r dŵr.
8. Daeth y disgyblion eraill ar ei ôl yn y cwch, gan lusgo'r rhwyd oedd yn llawn o bysgod ar eu holau. (Doedden nhw ond ryw 90 metr o'r lan.)
9. Ar y lan roedd tân golosg a physgod yn coginio arno, ac ychydig fara.