Ioan 21:21-25 beibl.net 2015 (BNET)

21. Pan welodd Pedr e, gofynnodd i Iesu, “Arglwydd, beth fydd yn digwydd iddo fe?”

22. Atebodd Iesu, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti? Dilyn di fi.”

23. A dyna pam aeth y stori ar led ymhlith y credinwyr fod y disgybl hwnnw ddim yn mynd i farw. Ond dim dweud ei fod e ddim yn mynd i farw wnaeth Iesu; dim ond dweud, “Petawn i am iddo aros yn fyw nes i mi ddod yn ôl, beth ydy hynny i ti?”

24. Fi ydy'r disgybl hwnnw – yr un welodd hyn i gyd ac sydd wedi ysgrifennu am y cwbl. Ac mae popeth dw i'n ei ddweud yn wir.

25. Gwnaeth Iesu lawer o bethau eraill hefyd. Petai hanes pob un ohonyn nhw yn cael ei gadw, dw i ddim yn meddwl y byddai'r byd i gyd yn gallu dal yr holl lyfrau fyddai'n cael eu hysgrifennu!

Ioan 21