11. Felly dyma Simon Pedr yn mynd i mewn i'r cwch a llusgo'r rhwyd i'r lan. Roedd hi'n llawn o bysgod mawrion, 153 ohonyn nhw, ond er hynny wnaeth y rhwyd ddim rhwygo.
12. “Dewch i gael brecwast,” meddai Iesu. Doedd dim un o'r disgyblion yn meiddio gofyn iddo, “Pwy wyt ti?” – roedden nhw yn gwybod yn iawn mai'r Arglwydd oedd e.
13. Yna dyma Iesu'n cymryd y bara a'i roi iddyn nhw, a gwneud yr un peth gyda'r pysgod.
14. Dyma'r trydydd tro i Iesu adael i'w ddisgyblion ei weld ar ôl iddo ddod yn ôl yn fyw.
15. Pan roedden nhw wedi gorffen bwyta, dyma Iesu'n troi at Simon Pedr a dweud, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i fwy na'r rhain?”“Ydw, Arglwydd,” atebodd, “rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.”Dwedodd Iesu wrtho, “Gofala am fy ŵyn.”
16. Yna gofynnodd Iesu eto, “Simon fab Ioan, wyt ti wir yn fy ngharu i?”Dwedodd eto, “Ydw, Arglwydd, rwyt ti'n gwybod mod i'n dy garu di.”Meddai Iesu, “Arwain fy nefaid.”