Ioan 20:25-31 beibl.net 2015 (BNET)

25. Dyma'r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!”Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu'r peth!”

26. Wythnos yn ddiweddarach roedd y disgyblion yn y tŷ eto, a'r tro hwn roedd Tomos yno gyda nhw. Er bod y drysau wedi eu cloi, daeth Iesu i mewn a sefyll yn y canol a dweud, “Shalôm!”

27. Trodd at Tomos a dweud, “Edrych ar fy arddyrnau; rho dy fys i mewn ynddyn nhw. Estyn dy law i'w rhoi yn fy ochr i. Stopia amau! Creda!”

28. A dyma Tomos yn dweud, “Fy Arglwydd a'm Duw!”

29. “Rwyt ti wedi dod i gredu am dy fod wedi fy ngweld i,” meddai Iesu wrtho. “Mae'r rhai fydd yn credu heb weld yn mynd i gael eu bendithio'n fawr.”

30. Gwelodd y disgyblion Iesu yn gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol eraill, ond dw i ddim wedi ysgrifennu amdanyn nhw yma.

31. Ond mae'r cwbl sydd yma wedi ei ysgrifennu er mwyn i chi gredu mai Iesu ydy'r Meseia, mab Duw. Pan fyddwch chi'n credu byddwch chi'n cael bywyd tragwyddol trwyddo.

Ioan 20