15. “Wraig annwyl,” meddai Iesu wrthi, “pam rwyt ti'n crïo? Am bwy rwyt ti'n chwilio?”Roedd hi'n meddwl mai'r garddwr oedd e, a dwedodd, “Syr, os mai ti sydd wedi ei symud, dywed lle rwyt ti wedi ei roi e, a bydda i'n mynd i'w nôl e.”
16. Yna dyma Iesu'n dweud, “Mair.”Trodd ato, ac meddai yn Hebraeg, “Rabbwni!” (sy'n golygu ‛Athro‛).
17. Dyma Iesu'n dweud wrthi, “Paid dal gafael ynof fi. Dw i ddim yn mynd i fyny at y Tad eto. Dos at fy mrodyr i a dweud wrthyn nhw, ‘Dw i'n mynd at fy Nhad a'm Duw, eich Tad a'ch Duw chi hefyd.’”
18. Yna aeth Mair Magdalen at y disgyblion a dweud: “Dw i wedi gweld yr Arglwydd!” A dwedodd wrthyn nhw beth oedd e wedi ei ddweud wrthi.
19. Y noson honno, sef nos Sul, roedd y disgyblion gyda'i gilydd. Er bod y drysau wedi eu cloi am fod ganddyn nhw ofn yr arweinwyr Iddewig, dyma Iesu'n dod i mewn a sefyll yn y canol. “Shalôm!” meddai wrthyn nhw.
20. Yna dangosodd ei ddwylo a'i ochr iddyn nhw. Roedd y disgyblion mor hapus pan welon nhw'r Arglwydd.
21. Yna dwedodd Iesu eto, “Shalôm! Yn union fel anfonodd y Tad fi, dw i hefyd yn eich anfon chi.”
22. Wedyn chwythodd arnyn nhw, a dweud, “Derbyniwch yr Ysbryd Glân.
23. Os gwnewch chi faddau pechodau rhywun, bydd y pechodau hynny yn cael eu maddau; ond os fyddwch chi ddim yn maddau iddyn nhw, fyddan nhw ddim yn cael maddeuant.”
24. Doedd Tomos ddim yno pan wnaeth Iesu ymddangos (Tomos oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛ – un o'r deuddeg disgybl).
25. Dyma'r lleill yn dweud wrtho, “Dŷn ni wedi gweld yr Arglwydd!”Ond ei ymateb oedd, “Nes i mi gael gweld ôl yr hoelion yn ei arddyrnau, a rhoi fy mys yn y briwiau hynny a rhoi fy llaw i mewn yn ei ochr, wna i byth gredu'r peth!”