26. Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a'r disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,”
27. ac meddai wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai'n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda'r disgybl hwnnw.
28. Roedd Iesu'n gwybod ei fod wedi gwneud popeth oedd gofyn iddo'i wneud. “Dw i'n sychedig,” meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud.
29. Roedd jwg o win sur rhad wrth ymyl, felly dyma nhw'n trochi ysbwng yn y gwin a'i rwymo ar goesyn isop i'w godi i fyny at wefusau Iesu.
30. Ar ôl cael diod, dyma Iesu'n dweud, “Mae'r cwbl wedi ei wneud.” Yna plygodd ei ben a marw.
31. Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a'r Saboth hwnnw'n ddiwrnod arbennig iawn, dyma'r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i'r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw'n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a'r ddau leidr iddyn nhw farw'n gynt, ac wedyn gallai'r cyrff gael eu cymryd i lawr.
32. Felly dyma'r milwyr yn dod ac yn torri coesau'r ddau ddyn oedd wedi eu croeshoelio gyda Iesu.
33. Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw'n barod. Yn lle torri ei goesau,
34. dyma un o'r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan.
35. Dw i'n dweud beth welais i â'm llygaid fy hun, ac mae beth dw i'n ei ddweud yn wir. Mae'r cwbl yn wir, a dw i'n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu.