Ioan 19:21-40 beibl.net 2015 (BNET)

21. Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‛Brenin yr Iddewon‛, ond yn hytrach fod y dyn yna'n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.”

22. Atebodd Peilat, “Dw i wedi ei ysgrifennu, a dyna ddiwedd ar y mater.”

23. Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw'n cymryd ei ddillad a'u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o'r top i'r gwaelod.

24. Felly dyma nhw'n dweud, “Gadewch inni beidio rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.”Digwyddodd hyn er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir, “Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, a gamblo am fy nghrys.” Dyna'n union wnaeth y milwyr!

25. Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a hefyd ei fodryb, a Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen.

26. Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a'r disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,”

27. ac meddai wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai'n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda'r disgybl hwnnw.

28. Roedd Iesu'n gwybod ei fod wedi gwneud popeth oedd gofyn iddo'i wneud. “Dw i'n sychedig,” meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud.

29. Roedd jwg o win sur rhad wrth ymyl, felly dyma nhw'n trochi ysbwng yn y gwin a'i rwymo ar goesyn isop i'w godi i fyny at wefusau Iesu.

30. Ar ôl cael diod, dyma Iesu'n dweud, “Mae'r cwbl wedi ei wneud.” Yna plygodd ei ben a marw.

31. Gan ei bod yn ddiwrnod paratoi ar gyfer wythnos y Pasg, a'r Saboth hwnnw'n ddiwrnod arbennig iawn, dyma'r arweinwyr Iddewig yn mynd i weld Peilat. Doedd ganddyn nhw ddim eisiau i'r cyrff gael eu gadael yn hongian ar y croesau dros y Saboth. Dyma nhw'n gofyn i Peilat ellid torri coesau Iesu a'r ddau leidr iddyn nhw farw'n gynt, ac wedyn gallai'r cyrff gael eu cymryd i lawr.

32. Felly dyma'r milwyr yn dod ac yn torri coesau'r ddau ddyn oedd wedi eu croeshoelio gyda Iesu.

33. Ond pan ddaethon nhw at Iesu gwelon nhw ei fod wedi marw'n barod. Yn lle torri ei goesau,

34. dyma un o'r milwyr yn trywanu Iesu yn ei ochr gyda gwaywffon, a dyma ddŵr a gwaed yn llifo allan.

35. Dw i'n dweud beth welais i â'm llygaid fy hun, ac mae beth dw i'n ei ddweud yn wir. Mae'r cwbl yn wir, a dw i'n rhannu beth welais i er mwyn i chi gredu.

36. Digwyddodd y pethau hynny er mwyn i beth sydd yn yr ysgrifau sanctaidd ddod yn wir: “Fydd dim un o'i esgyrn yn cael ei dorri,”

37. ac fel mae'n dweud yn rhywle arall, “Byddan nhw'n edrych ar yr un maen nhw wedi ei drywanu.”

38. Wedi hynny dyma Joseff o Arimathea yn mynd at Peilat i ofyn am ganiatâd i gymryd corff Iesu. (Roedd Joseff yn un o ddilynwyr Iesu, ond yn cadw'n ddistaw am y peth am fod ganddo ofn yr arweinwyr Iddewig.) Cafodd ganiatâd Peilat, a daeth a chymryd y corff.

39. Roedd Nicodemus gydag e hefyd, sef y dyn oedd wedi mynd i weld Iesu ganol nos. Daeth Nicodemus a tua 34 cilogram o fyrr ac aloes,

40. i'w ddefnyddio wrth rwymo corff Iesu â stribedi o liain. Dyma sut roedd yr Iddewon yn arfer claddu pobl.

Ioan 19