18. Yno, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes, a dau arall hefyd – un bob ochr iddo, a Iesu yn y canol.
19. Trefnodd Peilat fod arwydd yn cael ei rwymo ar ei groes, yn dweud: IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.
20. Gwelodd llawer o Iddewon yr arwydd yma, am fod y lle y cafodd Iesu ei groeshoelio yn agos at y ddinas. Roedd yr arwydd mewn tair iaith – Hebraeg, Lladin a Groeg.
21. Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‛Brenin yr Iddewon‛, ond yn hytrach fod y dyn yna'n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.”
22. Atebodd Peilat, “Dw i wedi ei ysgrifennu, a dyna ddiwedd ar y mater.”
23. Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw'n cymryd ei ddillad a'u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o'r top i'r gwaelod.
24. Felly dyma nhw'n dweud, “Gadewch inni beidio rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.”Digwyddodd hyn er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir, “Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, a gamblo am fy nghrys.” Dyna'n union wnaeth y milwyr!
25. Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a hefyd ei fodryb, a Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen.
26. Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a'r disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,”
27. ac meddai wrth y disgybl, “Gofala amdani hi fel petai'n fam i ti.” Felly o hynny ymlaen aeth mam Iesu i fyw gyda'r disgybl hwnnw.
28. Roedd Iesu'n gwybod ei fod wedi gwneud popeth oedd gofyn iddo'i wneud. “Dw i'n sychedig,” meddai, gan gyflawni beth oedd yr ysgrifau sanctaidd yn ei ddweud.