15. Ond dyma nhw'n gweiddi, “I ffwrdd ag e! I ffwrdd ag e! Croeshoelia fe!”“Dych chi am i mi groeshoelio eich brenin chi?” meddai Peilat.“Cesar ydy'n hunig frenin ni!” oedd ateb y prif offeiriaid.
16. Yn y diwedd dyma Peilat yn gadael iddyn nhw gael eu ffordd, ac yn rhoi Iesu i'w groeshoelio.Felly aeth y milwyr ag Iesu i ffwrdd.
17. Aeth allan, yn cario ei groes, i'r lle sy'n cael ei alw Lle y Benglog (‛Golgotha‛ yn Hebraeg).
18. Yno, dyma nhw'n hoelio Iesu ar groes, a dau arall hefyd – un bob ochr iddo, a Iesu yn y canol.
19. Trefnodd Peilat fod arwydd yn cael ei rwymo ar ei groes, yn dweud: IESU O NASARETH, BRENIN YR IDDEWON.
20. Gwelodd llawer o Iddewon yr arwydd yma, am fod y lle y cafodd Iesu ei groeshoelio yn agos at y ddinas. Roedd yr arwydd mewn tair iaith – Hebraeg, Lladin a Groeg.
21. Aeth y prif offeiriaid at Peilat i gwyno, “Ddylet ti ddim ysgrifennu, ‛Brenin yr Iddewon‛, ond yn hytrach fod y dyn yna'n hawlio mai fe oedd Brenin yr Iddewon.”
22. Atebodd Peilat, “Dw i wedi ei ysgrifennu, a dyna ddiwedd ar y mater.”
23. Pan wnaeth y milwyr groeshoelio Iesu, dyma nhw'n cymryd ei ddillad a'u rhannu rhwng y pedwar ohonyn nhw. Ond roedd ei grys yn un darn o frethyn o'r top i'r gwaelod.
24. Felly dyma nhw'n dweud, “Gadewch inni beidio rhwygo hwn. Gadewch i ni gamblo amdano.”Digwyddodd hyn er mwyn i'r ysgrifau sanctaidd ddod yn wir, “Maen nhw wedi rhannu fy nillad rhyngddyn nhw, a gamblo am fy nghrys.” Dyna'n union wnaeth y milwyr!
25. Roedd mam Iesu yn sefyll wrth ymyl ei groes, a hefyd ei fodryb, a Mair gwraig Clopas a Mair Magdalen.
26. Pan welodd Iesu ei fam yn sefyll yno, a'r disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn sefyll gyda hi, meddai wrth ei fam, “Mam annwyl, cymer e fel mab i ti,”