Ioan 19:1-11 beibl.net 2015 (BNET)

1. Felly dyma Peilat yn gorchymyn i Iesu gael ei chwipio.

2. Dyma'r milwyr yn plethu drain i wneud coron i'w rhoi am ei ben, ac yn gwisgo clogyn borffor amdano.

3. Yna roedden nhw'n mynd ato drosodd a throsodd, a'i gyfarch gyda'r geiriau, “Eich mawrhydi, Brenin yr Iddewon!”, ac wedyn ei daro ar ei wyneb.

4. Yna aeth Peilat allan eto a dweud wrth y dyrfa, “Dw i'n dod ag e allan eto, i chi wybod fy mod i ddim yn ei gael e'n euog o unrhyw drosedd.”

5. Daeth Iesu allan yn gwisgo'r goron ddrain a'r clogyn borffor, ac meddai Peilat wrthyn nhw, “Edrychwch, dyma'r dyn!”

6. Y foment y gwelodd y prif offeiriaid a'u swyddogion e, dyma nhw'n dechrau gweiddi, “Croeshoelia fe! Croeshoelia fe!”Ond meddai Peilat, “Cymerwch chi e a'i groeshoelio eich hunain! Lle dw i'n y cwestiwn, mae e'n ddieuog.”

7. “Mae gynnon ni Gyfraith,” meddai'r arweinwyr Iddewig, “ac yn ôl y Gyfraith honno mae'n rhaid iddo farw, am ei fod wedi galw ei hun yn Fab Duw.”

8. Pan glywodd Peilat hyn, roedd yn ofni fwy fyth.

9. Aeth yn ôl i mewn i'r palas a gofyn i Iesu, “O ble wyt ti wedi dod?” Ond roddodd Iesu ddim ateb iddo.

10. “Wyt ti'n gwrthod siarad â fi?” meddai Peilat. “Wyt ti ddim yn sylweddoli mai fi sydd â'r awdurdod i naill ai dy ryddhau di neu i dy groeshoelio di?”

11. Atebodd Iesu, “Fyddai gen ti ddim awdurdod o gwbl drosto i oni bai ei fod wedi ei roi i ti gan Dduw, sydd uwchlaw pawb. Felly mae'r un drosglwyddodd fi i ti yn euog o bechod llawer gwaeth.”

Ioan 19