Ioan 18:28-35 beibl.net 2015 (BNET)

28. Aeth yr arweinwyr Iddewig a Iesu oddi wrth Caiaffas i'r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi'n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i'r pencadlys, am eu bod nhw ddim eisiau torri'r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg.

29. Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy'r cyhuddiadau yn erbyn y dyn hwn?”

30. “Fydden ni ddim wedi ei drosglwyddo i ti oni bai ei fod wedi troseddu,” medden nhw.

31. “Felly cymerwch chi e,” meddai Peilat. “Defnyddiwch eich cyfraith eich hunain i'w farnu.” “Ond does gynnon ni mo'r awdurdod i'w ddedfrydu i farwolaeth,” medden nhw.

32. (Digwyddodd hyn fel bod beth ddwedodd Iesu am y ffordd roedd yn mynd i farw yn dod yn wir.)

33. Aeth Peilat yn ôl i mewn i'r palas, a galwodd Iesu i ymddangos o'i flaen a dweud wrtho, “Felly, ti ydy Brenin yr Iddewon, ie?”

34. “Wyt ti'n gofyn ohonot ti dy hun,” meddai Iesu, “neu ai eraill sydd wedi dweud hyn amdana i?”

35. “Dw i ddim yn Iddew!” atebodd Peilat. “Dy bobl di a'u prif offeiriaid sydd wedi dy drosglwyddo di i mi. Beth yn union wyt ti wedi ei wneud?”

Ioan 18