Ioan 18:18-29 beibl.net 2015 (BNET)

18. Roedd hi'n oer, ac roedd y gweithwyr a'r swyddogion diogelwch yn sefyll o gwmpas tân golosg roedden nhw wedi ei gynnau i gadw'n gynnes. Felly dyma Pedr hefyd yn mynd i sefyll gyda nhw i gadw'n gynnes.

19. Yn y cyfamser roedd Iesu'n cael ei groesholi gan yr archoffeiriad am beth roedd yn ei ddysgu, ac am ei ddisgyblion.

20. “Dw i wedi bod yn siarad yn gwbl agored,” meddai Iesu. “Roeddwn i bob amser yn dysgu yn y synagogau neu yn y deml, lle roedd y bobl yn cwrdd. Doedd gen i ddim cyfrinachau.

21. Pam wyt ti'n fy holi i? Hola'r bobl oedd yn gwrando arna i. Maen nhw'n gwybod beth dw i wedi ei ddweud.”

22. Pan atebodd Iesu felly dyma un o'r swyddogion oedd yno yn ei daro ar draws ei wyneb. “Ai dyna sut wyt ti'n ateb yr archoffeiriad!” meddai.

23. “Os dwedais i rywbeth o'i le,” meddai Iesu, “dywed wrth bawb beth. Ond os oedd beth ddwedais i yn iawn, pam wnest ti fy nharo i?”

24. Yna anfonodd Annas e, yn dal wedi ei rwymo, at Caiaffas yr archoffeiriad.

25. Tra roedd Simon Pedr yn sefyll wrth y tân yn cadw'n gynnes, gofynnwyd iddo eto, “Wyt ti ddim yn un o'i ddisgyblion e?”Ond gwadu wnaeth Pedr, “Nac ydw,” meddai.

26. Wedyn dyma un o weithwyr yr archoffeiriad yn ei herio (perthynas i'r dyn oedd Pedr wedi torri ei glust i ffwrdd), “Onid ti welais i gydag e yn yr ardd?”

27. Ond gwadu wnaeth Pedr eto, a'r foment honno dyma'r ceiliog yn canu.

28. Aeth yr arweinwyr Iddewig a Iesu oddi wrth Caiaffas i'r pencadlys Rhufeinig. Erbyn hyn roedd hi'n dechrau gwawrio. Aethon nhw ddim i mewn i'r pencadlys, am eu bod nhw ddim eisiau torri'r rheolau ynglŷn â glendid seremonïol; roedden nhw eisiau gallu bwyta swper y Pasg.

29. Felly daeth Peilat allan atyn nhw a gofyn, “Beth ydy'r cyhuddiadau yn erbyn y dyn hwn?”

Ioan 18