1. Ar ôl gorffen gweddïo, dyma Iesu'n croesi Dyffryn Cidron gyda'i ddisgyblion. Dyma nhw'n dod at ardd olewydd oedd yno ac yn mynd i mewn iddi.
2. Roedd Jwdas, y bradwr, yn gwybod am y lle, am fod Iesu a'i ddisgyblion wedi cyfarfod yno lawer gwaith.
3. Felly aeth Jwdas i'r ardd, gyda mintai o filwyr a swyddogion diogelwch wedi eu hanfon gan y prif offeiriaid a'r Phariseaid. Roedden nhw'n cario ffaglau a lanternau ac arfau.
4. Roedd Iesu'n gwybod yn union beth oedd yn mynd i ddigwydd iddo, felly aeth atyn nhw a gofyn, “Am bwy dych chi'n edrych?”
5. “Iesu o Nasareth,” medden nhw. “Fi ydy e,” meddai Iesu. (A dyna lle roedd Jwdas, y bradwr, yn sefyll yno gyda nhw!)
6. Pan ddwedodd Iesu “Fi ydy e,” dyma nhw'n symud at yn ôl ac yn syrthio ar lawr.
7. Gofynnodd iddyn nhw eto, “Pwy dych chi eisiau?”A dyma nhw'n dweud “Iesu o Nasareth.”
8. “Dw i wedi dweud wrthoch chi mai fi ydy e,” meddai Iesu. “Felly os mai fi ydy'r un dych chi'n edrych amdano, gadewch i'r dynion hyn fynd yn rhydd.”
9. (Er mwyn i beth ddwedodd e yn gynharach ddod yn wir: “Dw i ddim wedi colli neb o'r rhai roist ti i mi.”)
10. Yna dyma Simon Pedr yn tynnu cleddyf allan ac yn taro gwas yr archoffeiriad, a thorri ei glust dde i ffwrdd. (Malchus oedd enw'r gwas.)
11. “Cadw dy gleddyf!” meddai Iesu wrtho, “Wyt ti'n meddwl fy mod i ddim yn barod i ddioddef, ac yfed o'r cwpan chwerw mae'r Tad wedi ei roi i mi?”