Ioan 13:20-31 beibl.net 2015 (BNET)

20. Credwch chi fi, mae rhywun sy'n rhoi croeso i negesydd sydd wedi ei anfon gen i, yn rhoi croeso i mi. Ac mae pwy bynnag sy'n rhoi croeso i mi yn croesawu'r Tad sydd wedi fy anfon i.”

21. Ar ôl dweud hyn, roedd Iesu'n amlwg wedi cynhyrfu trwyddo. A dwedodd yn gwbl glir, “Credwch chi fi, mae un ohonoch chi'n mynd i'm bradychu i.”

22. Syllodd y disgyblion ar ei gilydd, heb syniad yn y byd am bwy oedd e'n sôn.

23. Roedd y disgybl oedd Iesu'n ei garu'n fawr yn eistedd agosaf at Iesu.

24. Dyma Simon Pedr yn gwneud arwydd i hwnnw ofyn i Iesu pwy oedd yn ei olygu.

25. Felly pwysodd yn ôl at Iesu, a gofyn iddo, “Arglwydd, am bwy rwyt ti'n sôn?”

26. Atebodd Iesu, “Yr un wna i roi darn o fara iddo wedi ei drochi'n y ddysgl saws.” Yna rhoddodd ddarn o fara yn y saws, a'i basio i Jwdas, mab Simon Iscariot.

27. Yr eiliad y cymerodd Jwdas y bara, dyma Satan yn mynd i mewn iddo. “Dos ar unwaith,” meddai Iesu wrtho, “Gwna beth rwyt ti'n mynd i'w wneud.”

28. Ond doedd neb arall wrth y bwrdd yn deall beth oedd Iesu'n ei olygu.

29. Gan mai Jwdas oedd yn gofalu am y pwrs arian, roedd rhai yn tybio fod Iesu'n dweud wrtho am fynd i brynu beth oedd ei angen ar gyfer dathlu'r Ŵyl, neu i fynd i roi rhodd i bobl dlawd.

30. Aeth Jwdas allan yn syth ar ôl cymryd y bara. Roedd hi'n nos.

31. Ar ôl i Jwdas adael dwedodd Iesu,“Mae'n amser i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu,ac i Dduw gael ei anrhydeddu drwy beth fydd yn digwydd i mi.

Ioan 13