Ioan 12:22-29 beibl.net 2015 (BNET)

22. Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu.

23. Ymateb Iesu oedd dweud fel hyn: “Mae'r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu.

24. Credwch chi fi, bydd hedyn o wenith yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach, os fydd e ddim yn disgyn ar y ddaear a marw. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau.

25. Bydd y sawl sy'n meddwl am neb ond ei hun yn colli ei fywyd, tra bydd y sawl sy'n rhoi ei hun yn olaf yn y byd hwn yn cael bywyd tragwyddol.

26. Os dych chi am fy ngwasanaethu i rhaid i chi ddilyn yr un llwybr â mi. Byddwch chi'n cael eich hun yn yr un sefyllfa a fi. Y rhai sy'n fy ngwasanaethu i fydd Duw, fy Nhad, yn eu hanrhydeddu.

27. “Ar hyn o bryd dw i wedi cynhyrfu. Beth alla i ddweud? O Dad, achub fi rhag y profiad ofnadwy sydd i ddod? Na! dyma pam dw i wedi dod.

28. Dad, dangos di mor wych wyt ti!” A dyma lais o'r nefoedd yn dweud, “Dw i wedi gwneud hynny, a bydda i'n gwneud eto.”

29. Roedd rhai o'r bobl oedd yno yn meddwl mai sŵn taran oedd, ac eraill yn dweud “Na, angel oedd yn siarad ag e!”

Ioan 12