14. Eisteddodd Iesu ar gefn asyn, fel mae'n dweud yn yr ysgrifau sanctaidd,
15. “Paid ag ofni, ddinas Jerwsalem. Edrych! dy frenin sy'n dod, ar gefn ebol asen.”
16. (Doedd y disgyblion ddim wedi deall arwyddocâd hyn i gyd ar y pryd. Dim ond ar ôl i Iesu gael ei anrhydeddu wnaethon nhw sylweddoli fod y pethau yma wedi eu hysgrifennu amdano, a'u bod nhw wedi digwydd iddo.)
17. Roedd llawer iawn o'r bobl yn y dyrfa wedi gweld Iesu'n galw Lasarus allan o'r bedd a dod ag e yn ôl yn fyw, ac roedden nhw wedi bod yn dweud wrth bawb arall beth ddigwyddodd.
18. Dyna pam roedd cymaint o bobl wedi mynd allan i'w gyfarfod – roedden nhw wedi clywed am yr arwydd gwyrthiol roedd wedi ei wneud.
19. Roedd y Phariseaid yn dweud wrth ei gilydd, “Does dim pwynt! Edrychwch! Mae fel petai'r byd i gyd yn mynd ar ei ôl e!”
20. Roedd rhai pobl oedd ddim yn Iddewon wedi mynd i addoli yn Jerwsalem adeg Gŵyl y Pasg.
21. Dyma nhw'n mynd at Philip (oedd yn dod o Bethsaida, Galilea), a gofyn iddo, “Syr, dŷn ni eisiau gweld Iesu.”
22. Aeth Philip i ddweud wrth Andreas, ac wedyn aeth y ddau ohonyn nhw i ddweud wrth Iesu.
23. Ymateb Iesu oedd dweud fel hyn: “Mae'r amser wedi dod i mi, Mab y Dyn, gael fy anrhydeddu.
24. Credwch chi fi, bydd hedyn o wenith yn aros fel y mae, yn ddim ond un hedyn bach, os fydd e ddim yn disgyn ar y ddaear a marw. Ond os bydd yn marw, bydd yn troi yn gnwd o hadau.