9. Atebodd Iesu, “Onid oes deuddeg awr o olau dydd? Dydy'r rhai sy'n cerdded yn ystod y dydd ddim yn baglu, am fod ganddyn nhw olau'r haul.
10. Mae rhywun yn baglu wrth gerdded yn y nos, am fod dim golau ganddo.”
11. Yna dwedodd wrthyn nhw, “Mae ein ffrind Lasarus wedi syrthio i gysgu. Dw i i'n mynd yno i'w ddeffro.”
12. “Arglwydd,” meddai'r disgyblion, “os ydy e'n cysgu, bydd yn gwella.”
13. Ond marwolaeth oedd Iesu'n ei olygu wrth ‛gwsg‛. Roedd ei ddisgyblion wedi cael y syniad ei fod yn golygu gorffwys naturiol.
14. Felly dyma Iesu'n dweud wrthyn nhw'n blaen, “Mae Lasarus wedi marw,
15. a dw i'n falch fy mod i ddim yno er eich mwyn chi. Dw i eisiau i chi gredu. Gadewch inni fynd ato.”
16. Yna dyma Tomos (oedd yn cael ei alw ‛Yr Efaill‛) yn dweud wrth y disgyblion eraill, “Dewch, gadewch i ni fynd i farw gydag e!”
17. Pan gyrhaeddodd Iesu, deallodd fod Lasarus wedi cael ei gladdu ers pedwar diwrnod.
18. Roedd Bethania llai na dwy filltir o Jerwsalem,
19. ac roedd llawer o bobl o Jwdea wedi dod at Mair a Martha i gydymdeimlo â nhw ar golli eu brawd.
20. Pan glywodd Martha fod Iesu'n dod, aeth allan i'w gyfarfod, ond arhosodd Mair yn y tŷ.
21. “Arglwydd,” meddai Martha wrth Iesu, “taset ti wedi bod yma, fyddai fy mrawd ddim wedi marw.
22. Ond er hynny, dw i'n dal i gredu fod Duw yn rhoi i ti beth bynnag wyt ti'n ei ofyn ganddo.”
23. Dwedodd Iesu wrthi, “Bydd dy frawd yn dod yn ôl yn fyw.”
24. Atebodd Martha, “Dw i'n gwybod y bydd yn dod yn ôl yn fyw adeg yr atgyfodiad ar y dydd olaf.”
25. Dwedodd Iesu wrthi, “Fi ydy'r atgyfodiad a'r bywyd. Bydd pawb sy'n credu ynof fi yn dod yn fyw, er iddyn nhw farw;
26. a bydd y rhai sy'n fyw ac yn credu ynof fi ddim yn marw go iawn. Wyt ti'n credu hyn?”
27. “Ydw, Arglwydd,” meddai Martha wrtho, “dw i'n credu mai ti ydy'r Meseia, Mab Duw, yr un oedd i ddod i'r byd.”