Ioan 11:38-50 beibl.net 2015 (BNET)

38. Roedd Iesu'n dal wedi cynhyrfu pan ddaeth at y bedd. (Ogof oedd y bedd, a charreg wedi ei gosod dros geg yr ogof.)

39. “Symudwch y garreg,” meddai.Ond dyma Martha, chwaer y dyn oedd wedi marw, yn dweud “Arglwydd, bydd yn drewi bellach; mae wedi ei gladdu ers pedwar diwrnod.”

40. Meddai Iesu wrthi, “Wnes i ddim dweud wrthot ti y byddi di'n gweld mor wych ydy Duw, dim ond i ti gredu?”

41. Felly dyma nhw'n symud y garreg. Yna edrychodd Iesu i fyny, a dweud, “Dad, diolch i ti am wrando arna i.

42. Dw i fy hun yn gwybod dy fod ti'n gwrando arna i bob amser, ond dw i'n dweud hyn er mwyn y bobl sy'n sefyll yma, iddyn nhw gredu mai ti sydd wedi fy anfon i.”

43. Ar ôl dweud hyn, dyma Iesu'n gweiddi'n uchel, “Lasarus, tyrd allan!”

44. A dyma'r dyn oedd wedi marw'n dod allan. Roedd ei freichiau a'i goesau wedi eu rhwymo gyda stribedi o liain, ac roedd cadach am ei wyneb.“Tynnwch nhw i ffwrdd” meddai Iesu, “a'i ollwng yn rhydd.”

45. Felly daeth llawer o bobl Jwdea i gredu ynddo – y rhai oedd wedi dod i ymweld â Mair, a gweld beth wnaeth Iesu.

46. Ond aeth rhai ohonyn nhw at y Phariseaid a dweud beth oedd Iesu wedi ei wneud.

47. A dyma'r prif offeiriaid a'r Phariseaid hynny yn galw cyfarfod o'r Sanhedrin Iddewig. “Pam ydyn ni ddim yn gwneud rhywbeth?” medden nhw. “Mae'r dyn yma'n gwneud llawer o arwyddion gwyrthiol.

48. Os wnawn ni adael iddo fynd yn ei flaen, bydd pawb yn credu ynddo! Bydd y Rhufeiniaid yn dod ac yn dinistrio ein teml a'n gwlad ni.”

49. Ond dyma un ohonyn nhw, Caiaffas, oedd yn archoffeiriad y flwyddyn honno, yn dweud fel hyn: “Dych chi mor ddwl!

50. Onid ydy'n well i un person farw dros y bobl nag i'r genedl gyfan gael ei dinistrio?”

Ioan 11