Ioan 11:33-36 beibl.net 2015 (BNET)

33. Wrth ei gweld hi'n wylofain yn uchel, a'r bobl o Jwdea oedd yno yn wylofain gyda hi, cynhyrfodd Iesu drwyddo ac roedd yn ddig.

34. “Ble dych chi wedi ei gladdu?” gofynnodd.“Tyrd i weld, Arglwydd,” medden nhw.

35. Roedd Iesu yn ei ddagrau.

36. “Edrychwch gymaint oedd yn ei garu e!” meddai'r bobl oedd yno.

Ioan 11