Ioan 1:30-44 beibl.net 2015 (BNET)

30. Dyma'r dyn ddwedais i amdano, ‘Mae un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’

31. Doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un. Ond dw i wedi bod yn bedyddio â dŵr er mwyn i Israel ei weld e.”

32. Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o'r nefoedd fel colomen ac yn aros arno.

33. Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di'r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna'r un fydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.’

34. A dyna welais i'n digwydd! Dw i'n dweud wrthoch chi mai Iesu ydy Mab Duw.”

35. Roedd Ioan yno eto'r diwrnod wedyn gyda dau o'i ddisgyblion.

36. Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai “Edrychwch! Oen Duw!”

37. Dyma'r ddau ddisgybl glywodd beth ddwedodd Ioan yn mynd i ddilyn Iesu.

38. Trodd Iesu a'u gweld nhw'n ei ddilyn, a gofynnodd iddyn nhw, “Beth dych chi eisiau?”“Rabbi” medden nhw “ble rwyt ti'n aros?” (Ystyr y gair Hebraeg ‛Rabbi‛ ydy ‛Athro‛)

39. Atebodd Iesu nhw, “Dewch i weld.”Felly dyma nhw'n mynd i weld lle roedd yn aros, a threulio gweddill y diwrnod gydag e. Roedd hi tua pedwar o'r gloch y p'nawn erbyn hynny.

40. Andreas (brawd Simon Pedr) oedd un o'r ddau,

41. a'r peth cyntaf wnaeth wedyn oedd mynd i chwilio am ei frawd Simon, a dweud wrtho, “Dŷn ni wedi dod o hyd i'r Meseia” (gair Hebraeg sy'n golygu ‛Yr un wedi ei eneinio'n frenin‛).

42. Aeth Andreas ag e i gyfarfod Iesu. Edrychodd Iesu arno, ac yna dweud, “Simon fab Ioan wyt ti. Ond Ceffas fyddi di'n cael dy alw,” (enw sy'n golygu'r un peth â Pedr, sef ‛craig‛).

43. Y diwrnod wedyn penderfynodd Iesu fynd i Galilea. Daeth o hyd i Philip, a dweud wrtho, “Tyrd, dilyn fi.”

44. Roedd Philip hefyd (fel Andreas a Pedr), yn dod o dref Bethsaida.

Ioan 1