Ioan 1:16-36 beibl.net 2015 (BNET)

16. Ynddo fe mae un fendith hael wedi cael ei rhoi yn lle'r llall – a hynny i bob un ohonon ni!

17. Rhoddodd Moses Gyfraith Duw i ni; wedyn dyma rodd hael Duw a'i wirionedd yn dod i ni yn Iesu y Meseia.

18. Does neb erioed wedi gweld Duw, ond mae'r Mab unigryw hwn (sy'n Dduw ei hun, gyda'r berthynas agosaf posib â'r Tad), wedi dweud yn glir amdano.

19. Dyma'r arweinwyr Iddewig yn Jerwsalem yn anfon offeiriaid a Lefiaid at Ioan Fedyddiwr i ofyn iddo pwy oedd.

20. Dwedodd Ioan yn blaen wrthyn nhw, “Dim fi ydy'r Meseia.”

21. “Felly pwy wyt ti?” medden nhw. “Ai Elias y proffwyd wyt ti?”“Nage” meddai Ioan.“Ai y Proffwyd soniodd Moses amdano wyt ti?”Atebodd eto, “Na.”

22. “Felly, pwy wyt ti'n ddweud wyt ti?” medden nhw yn y diwedd, “i ni gael rhoi rhyw ateb i'r rhai sydd wedi'n hanfon ni. Beth fyddet ti'n ei ddweud amdanat ti dy hun?”

23. Atebodd Ioan drwy ddyfynnu geiriau'r proffwyd Eseia: “Llais yn gweiddi'n uchel yn yr anialwch, ‘Cliriwch y ffordd i'r Arglwydd!’ Dyna ydw i.”

24. Yna dyma'r rhai ohonyn nhw oedd yn Phariseaid

25. yn gofyn iddo, “Ond pa hawl sydd gen ti i fedyddio os mai dim ti ydy'r Meseia, nag Elias, na'r Proffwyd?”

26. Atebodd Ioan nhw, “Dŵr dw i'n ei ddefnyddio i fedyddio pobl. Ond mae rhywun dych chi ddim yn ei nabod yn sefyll yn eich plith chi –

27. sef yr un sy'n dod ar fy ôl i. Fyddwn i ddim digon da i fod yn gaethwas i ddatod carrai ei sandalau hyd yn oed!”

28. Digwyddodd hyn i gyd yn Bethania yr ochr draw i Afon Iorddonen, lle roedd Ioan yn bedyddio.

29. Y diwrnod wedyn gwelodd Ioan Iesu yn dod i'w gyfeiriad. “Edrychwch!” meddai, “Dacw Oen Duw, yr un sy'n cymryd pechod y byd i ffwrdd.

30. Dyma'r dyn ddwedais i amdano, ‘Mae un sy'n dod ar fy ôl i yn bwysicach na fi. Roedd e'n bodoli o'm blaen i.’

31. Doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un. Ond dw i wedi bod yn bedyddio â dŵr er mwyn i Israel ei weld e.”

32. Yna dyma Ioan yn dweud hyn: “Gwelais yr Ysbryd Glân yn disgyn o'r nefoedd fel colomen ac yn aros arno.

33. Cyn hynny doeddwn i ddim yn gwybod mai fe oedd yr un, ond roedd yr un anfonodd fi i fedyddio â dŵr wedi dweud wrtho i, ‘Os gweli di'r Ysbryd yn dod i lawr ac yn aros ar rywun, dyna'r un fydd yn bedyddio â'r Ysbryd Glân.’

34. A dyna welais i'n digwydd! Dw i'n dweud wrthoch chi mai Iesu ydy Mab Duw.”

35. Roedd Ioan yno eto'r diwrnod wedyn gyda dau o'i ddisgyblion.

36. Wrth i Iesu fynd heibio, roedd Ioan yn syllu arno, ac meddai “Edrychwch! Oen Duw!”

Ioan 1