1. O Israel, stopia ddathlua gweiddi'n llawen fel y paganiaid;ti wedi bod yn anffyddlon i dy Dduw.Ti'n hoffi derbyn cyflog putainwrth ‛addoli‛ ar bob llawr dyrnu!
2. Fydd dy gynhaeaf ŷd ddim digon i fwydo dy bobl,a bydd y grawnwin o'r gwinllannoedd yn dy siomi.
3. Fyddan nhw ddim yn aros ar dir yr ARGLWYDD.Bydd Effraim yn mynd yn ôl i'r Aifft,ac yn bwyta bwyd aflan yn Asyria.