1. dw i eisiau iacháu Israel.Ond mae pechod Effraim yn y golwg,a drygioni Samaria mor amlwg.Maen nhw mor dwyllodrus!Mae lladron yn torri i mewn i'r tai,a gangiau'n dwyn ar y strydoedd.
2. Dŷn nhw ddim yn sylweddolify mod i'n gweld y drwg i gyd.Mae eu drygioni fel baw drostyn nhw –dw i'n ei weld o flaen fy llygaid!
3. Mae'r brenin yn mwynhau gweld drwga'r tywysogion yn twyllo.
4. Maen nhw i gyd yn godinebu!Maen nhw fel popty crasboeth –does dim rhaid i'r pobydd brocio'r tântra mae'n tylino'r toes,na pan mae'n cael ei bobi!
5. Mae'r brenin yn cynnal parti,ac mae'r tywysogion yn meddwi;Mae e'n cynllwynio gyda paganiaid
6. ac yn troi ata i gan fwriadu brad.Bwriadau sydd fel popty poeth,yn mudlosgi drwy'r nosac yn cynnau'n fflamau tân yn y bore.