Hosea 13:3-9 beibl.net 2015 (BNET)

3. Byddan nhw wedi mynd fel tarth y bore,neu'r gwlith sy'n diflannu'n gynnar;fel us yn cael ei chwythu o'r llawr dyrnu,neu fwg sy'n dianc drwy ffenest.

4. “Ond fi ydy'r ARGLWYDD eich Duw,ers i chi ddod allan o wlad yr Aifft.Peidiwch arddel unrhyw dduw ond fi –Fi ydy'r unig un sy'n achub!

5. Fi wnaeth fwydo'ch pobl yn yr anialwch,mewn tir sych, diffaith.

6. Ond wedi eu bwydo, roedden nhw'n fodlon –mor fodlon nes iddyn nhw droi'n falch,ac yna fy anghofio i!

7. Felly bydda i'n rhuthro arnyn nhw fel llew,ac yn llechian fel llewpard ar ochr y ffordd.

8. Bydda i'n ymosod arnyn nhwfel arth wedi colli ei chenawon;a'i llarpio nhw fel llew,neu anifail gwyllt yn rhwygo'i ysglyfaeth.

9. Dw i'n mynd i dy ddinistrio di, O Israel!Pwy sydd yna i dy helpu di?

Hosea 13