Hosea 12:5-12 beibl.net 2015 (BNET)

5. Ie, yr ARGLWYDD! Y Duw holl-bwerus!Yr ARGLWYDD ydy ei enw am byth!

6. Rhaid i ti droi'n ôl at Dduw! –byw bywyd o gariad a chyfiawnder,a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.

7. Fel masnachwyr gyda chlorian sy'n twyllo,maen nhw wrth eu boddau'n manteisio.

8. Ac mae Effraim yn brolio:“Dw i'n gyfoethog! Dw i wedi gwneud arian mawr!A does neb yn gallu gweld y twyll,neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”

9. “Fi ydy'r ARGLWYDD dy Dduwddaeth â ti allan o wlad yr Aifft.Dw i'n mynd i wneud i ti fyw mewn pebyll eto,fel pan wnes i dy gyfarfod yn yr anialwch.

10. Dw i wedi siarad drwy'r proffwydi –mewn gweledigaethau a negeseuon.”

11. Ydy Gilead yn addoli eilunod?Ydy, a does dim dyfodol i'w phobl!Ydyn nhw'n aberthu teirw yn Gilgal?Ydynt, ond bydd eu hallorau fel pentwr o gerrigmewn cae wedi ei aredig!

12. Roedd rhaid i Jacob ddianc i wlad Aram –gweithiodd Israel fel gwas i gael gwraig,a cadw defaid i dalu amdani.

Hosea 12