Hosea 12:1-8 beibl.net 2015 (BNET)

1. Mae Effraim yn rhedeg ar ôl cysgodion –mae fel ffŵl sy'n dyheu am wynt poeth y dwyrain!Dim ond twyllo diddiwedd, a dinistr yn ei ddilyn.Mae'n gwneud cytundeb gydag Asyria,ac wedyn yn anfon olew olewydd yn dâl i'r Aifft!

2. Mae'r ARGLWYDD am ddwyn achos yn erbyn Jwda:bydd yn cosbi pobl Jacob am y ffordd maen nhw wedi ymddwyn;talu'n ôl iddyn nhw am beth maen nhw wedi ei wneud.

3. Daliodd ei frawd yn ôl yn y groth,a hyd yn oed ymladd gyda Duw fel oedolyn!

4. Reslo gydag angel heb golli –crïo a pledio arno i'w fendithio.Dyma Duw yn ei gyfarfod yn Bethela siarad gydag e yno –

5. Ie, yr ARGLWYDD! Y Duw holl-bwerus!Yr ARGLWYDD ydy ei enw am byth!

6. Rhaid i ti droi'n ôl at Dduw! –byw bywyd o gariad a chyfiawnder,a disgwyl yn ffyddiog am dy Dduw.

7. Fel masnachwyr gyda chlorian sy'n twyllo,maen nhw wrth eu boddau'n manteisio.

8. Ac mae Effraim yn brolio:“Dw i'n gyfoethog! Dw i wedi gwneud arian mawr!A does neb yn gallu gweld y twyll,neb yn gweld fy mod yn euog o unrhyw bechod.”

Hosea 12