Hosea 11:5-10 beibl.net 2015 (BNET)

5. Byddan nhw'n mynd yn ôl i'r Aifft!Bydd Asyria'n eu rheoli,am iddyn nhw wrthod troi'n ôl ata i.

6. Bydd cleddyf yn fflachio'n eu trefi.Bydd y gelyn yn malu'r giatiau,a'u lladd er gwaetha'u cynlluniau.

7. Mae fy mhobl yn mynnu troi cefn arna i.Maen nhw'n galw ar Baal,ond fydd e byth yn eu helpu nhw!

8. Sut alla i dy roi heibio, Effraim?Ydw i'n mynd i adael i ti fynd, Israel?Sut alla i dy roi heibio fel Adma?Ydw i'n mynd i dy drin fel Seboïm?Na, dw i wedi newid fy meddwl!Mae tosturi wedi cynnau'n fy nghalon.

9. Alla i ddim gadael llonydd i'm llid losgi.Alla i ddim dinistrio Effraim yn llwyr!Duw ydw i, nid dyn fel chi,yr Un Sanctaidd – dw i ddim am ddod i ddinistrio.”

10. Bydd yr ARGLWYDD yn rhuo fel llew,a byddan nhw'n ei ddilyn eto.Pan fydd e'n rhuo, bydd ei blant yn dodo'r gorllewin yn llawn cyffro.

Hosea 11