Hosea 10:6-12 beibl.net 2015 (BNET)

6. a'i gario i Asyriayn anrheg i'r brenin mawr.Bydd Effraim yn destun sbort,ac Israel yn cywilyddio o achos yr eilun o bren.

7. Bydd Samaria'n cael ei dinistrio,a'i brenin yn cael ei gipiofel brigyn yn cael ei gario ar lif afon.

8. Bydd yr allorau paganaidd yn cael eu dinistrio –sef y lleoedd lle bu Israel yn pechu.Bydd drain ac ysgall yn tyfu dros yr allorau.Byddan nhw'n dweud wrth y mynyddoedd,“Cuddiwch ni!”ac wrth y bryniau,“Syrthiwch arnon ni!”

9. “Israel, ti wedi pechu ers y digwyddiad erchyll yn Gibea. A does dim byd wedi newid! Onid rhyfel oedd canlyniad yr holl ddrwg yn Gibea?

10. A dw i'n barod i gosbi eto. Dw i'n mynd i gasglu'r cenhedloedd i ymosod arnat ti a dy gymryd yn gaeth am y ddau bechod.

11. Roedd Effraim fel heffer wedi ei hyfforddi,ac wrth ei bodd yn sathru'r grawn.Ond dw i'n mynd i roi iau trwm ar ei gwddf,a gêr i wneud i Effraim aredig.Bydd rhaid i Jwda arediga Jacob lyfnu'r tir ei hun!

12. Heuwch hadau cyfiawnder,a chewch gynhaeaf o gariad gen i.Trin tir eich calon galed –ceisio'r ARGLWYDD nes iddo ddodgyda chawodydd achubiaeth.

Hosea 10