Hosea 10:1-5 beibl.net 2015 (BNET)

1. Roedd Israel fel gwinwydden iacha'i ffrwyth yn drwm ar ei changhennau.Ond po fwya o ffrwyth gafwyd,mwya o allorau a godwyd.Wrth i gnydau'r tir lwyddobyddai'r colofnau cysegredig yn cael eu haddurno.

2. Maen nhw'n rhagrithio,felly byddan nhw'n cael eu cosbi.Bydd yr ARGLWYDD ei hunyn chwalu'r allorauac yn malu'r colofnau.

3. Yn fuan iawn byddan nhw'n cyfaddef,“Does dim brenin am ein bod heb barchu'r ARGLWYDD.Ond beth wnaeth brenin i ni beth bynnag?”

4. Maen nhw'n llawn geiriau gwag,addewidion wedi eu torri,a chytundebau diwerth.Mae achosion llys yn lledufel chwyn gwenwynig mewn cae wedi ei aredig.

5. Bydd pobl Samaria yn ofnibeth ddigwydd i lo Beth-afen.Bydd y bobl yn galarugyda'r offeiriaid ffals a fu'n dathlu,am fod ei ysblander wedi ei gipio,

Hosea 10